Mae mentora cyfoed yn gyfle gwych i ddefnyddwyr gwasanaethau gael gwaith gyda GISDA. Mae hyn yn eu galluogi i ehangu eu profiad a datblygu sgiliau newydd.
Drwy fentora cyfoed gall y person llwyddiannus fentora’r bobl ifanc yn ein prosiectau.
Bydd y Mentor Cyfoed wedi cadw tenantiaeth yn llwyddiannus ac wedi gadael y gwasanaeth am gyfnod o saith mis i un flwyddyn.
Ein gobaith yw y bydd y rôl hon yn gallu ysbrydoli pobl ifanc eraill i ddatblygu, gan fod ein mentor presennol wedi derbyn ein gwasanaeth yn y gorffennol, yn deall y problemau y mae defnyddwyr gwasanaethau’n eu hwynebu ac yn gallu meithrin perthynas dda â nhw.