09/04/2024
Dathlwch amrywiaeth a chynhwysiant yn Pride Caernarfon ar Fehefin 29ain! Ymunwch â ni am ddiwrnod o orymdeithiau, adloniant a pherfformiadau, ac ysbryd cymunedol. Dysgwch fwy yma: https://bit.ly/3PPVGmz
Rydym yn rhoi cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc 14-25 yng Ngwynedd
09/04/2024
Dathlwch amrywiaeth a chynhwysiant yn Pride Caernarfon ar Fehefin 29ain! Ymunwch â ni am ddiwrnod o orymdeithiau, adloniant a pherfformiadau, ac ysbryd cymunedol. Dysgwch fwy yma: https://bit.ly/3PPVGmz
15/03/2024
Rydym yn hynod ddiolchgar o dderbyn 15 o gyfrifiaduron wedi’u hadnewyddu diolch i fenter wych ScottishPower sydd yn cefnogi elusennau ac yn rhoi bywyd newydd i eitemau technoleg y gellid cael eu taflu fel arall. Diolch arbennig i Dylan Herbert (Pennaeth Adnoddau a Chynllunio Gwaith) am ein henwebu i'w derbyn, ac i Andy Sturgeon am eu danfon o Lerpwl!
04/03/2024
Bydd pump person ifanc ffodus o GISDA yn mynd i Efrog Newydd mis Ebrill diolch i rhaglen cyfnewid Lywodraeth Cymru, Taith! Byddant yn archwilio'r ddinas fywiog, cysylltu â chymheiriaid, ac yn ymweld â'r Ali Forney Center. Dilynwch ein cyfrygau cymdeithasol am ddiweddiaradau eu taith gyffrous!
04/03/2024
Rydym mor falch i gyhoeddi ein bod wedi derbyn Gwobr Arloesedd yn y Gymraeg yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn ddiweddar! Diolch enfawr i'n tîm, pobl ifanc, a phawb sy'n ein cefnogi. Llongyfarchiadau i'r HOLL enwebeion ac enillwyr - mae eich gwaith yn anhygoel!
16/02/2024
Croesawodd Prosiect ICAN y Dirprwy Weinidog Julie Morgan AS yr wythnos hon! Gyda Gareth Williams a Klare Jordan (Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr) a Dr. Sally Rees (Llywodraeth Cymru), buom yn trafod yr effaith positif y mae ICAN yn ei chael ar iechyd meddwl pobl ifanc. Wedi ei ariannu gan y Bwrdd Iechyd, mae ICAN yn darparu cefnogaeth hollbwysig i bobl ifanc Gwynedd.
09/02/2024
Roedd yn bleser i groesawu’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans AS i GISDA yr wythnos yma. Rydym mor ddiolchgar iddi am gymryd cymaint o ddiddordeb yn ein gwaith, ac yn hapus i ddweud eu bod yn falch iawn gyda’r datblygiadau ar ein prosiect cyffrous, Y Maes. Edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau.