Gweledigaeth GISDA yw pobl ifanc Gwynedd yn byw bywydau hapus a diogel yn rhydd o annhegwch ac anfantais.
Amdanom Ni
Mae GISDA yn elusen sy’n darparu llety, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc 16-25 digartref a/neu bregus yng Ngwynedd i’w galluogi i symud o gefnogaeth i annibyniaeth. Ein gweledigaeth yw fod bob person ifanc yng Ngwynedd yn gallu byw bywydau diogel a hapus yn rhydd o anfantais ac annhegwch
Sefydlwyd GISDA yn 1985 er mwyn cynnig lloches a chefnogaeth i bobl ifanc digartref Arfon. Ers hynny mae GISDA wedi datblygu ac yn cynnig llety a gwasanaeth ar draws Gwynedd gyda hybiau penodol yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli.
Rydym yn gweithio’n therapiwtig o amgylch y person ifanc gyda chynllun wedi’w deilwra’n arbennig i anghenion a dyheadau yr unigolyn a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth pendodol maent eu hangen i’w cynorthwyo ar eu taith i fywyd diogel a hapus.
Drwy ddod at GISDA mae person ifanc yn gallu derbyn llety, sgiliau byw’n annibynol, profiadau a chyfleoedd newydd, hyfforddiant, cymhwysterau, profiad gwaith, sgiliau cyflogadwyaeth, cefnogaeth iechyd meddwl, profiadau datblygu hyder a gwytnwch, cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a hamdden, cyngor a gwybodaeth a llawer iawn mwy
Rydym yn sefydliad a arweinir gan werthoedd. Rydym yn credu mewn....
GONESTRWYDD – daparu gwasanaeth gonest a didwyll i bobl ifanc
GWRANDO A CHLYWED – cymryd pob cyfle i wrando ar lais pobl ifanc fel ein bod yn gwybod beth sydd angen ei newid oherwydd ein bod wedi clywed beth mae nhw wedi dweud wrthym
PARCH, URDDAS AC EMPATHI – parchu teimladau, credoau a hawliau pob unigolyn
CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT – pawb yn haeddu’r un cyfle waeth beth fo’u cefndir neu hunaniaeth
YMBWERU A GALLUOGI – annog pobl ifanc i gredu ynddynt eu hunain a bod yn uchelgeisiol yn eu dyheadau ar gyfer y dyfodol