Angen Help?
Sut i gael cymorth gan GISDA
Cysylltwch â ni ar 01286 671153. Mae ein tîm cyfeillgar ar gael i sgwrsio ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am wasanaethau GISDA. Yn ystod yr alwad, byddwn yn gweithio gyda chi i gwblhau ffurflen asesu gyda'n gilydd. Mae hyn yn ein helpu i ddeall cefndir, sefyllfa ac anghenion y person ifanc yn well. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Nesaf, bydd y ffurflen wedi'i chwblhau yn cael ei chyflwyno drwy'r system Un Pwynt Mynediad (Single Poingt of Access neu SPOA). Defnyddir y system ganolog hon ar draws Gogledd Cymru i gysylltu pobl â'r gwasanaethau cywir. Bydd y Tîm Un Pwynt Mynediad wedyn yn anfon y ffurflen ymlaen i Gyngor Gwynedd am asesiad llawn.
Caiff sefyllfa'r person ifanc ei hasesu a bydd y camau nesaf yn cael ei benderfynu - gallai hyn olygu eu cyfeirio at GISDA neu, mewn rhai achosion, at wasanaethau cefnogi eraill. Os penderfynir mai cefnogaeth GISDA yw’r mwyaf addas ar gyfer y person ifanc mewn angen, yna byddwn mewn cysylltiad i drafod y camau nesaf a sut gall GISDA helpu.
Os yw'r person ifanc yn gymwys i dderbyn cymorth, bydd yn cael ei roi ar restr aros GISDA tan y bydd gweithiwr allweddol ar gael iddynt. Mae'n anodd amcangyfrif pa mor hir y bydd rhywun yn aros am gymorth. Yn y cyfamser, bydd y swyddog atgyfeirio yn cyfeirio’r person ifanc at asiantaethau cysylltiedig eraill ac yn archwilio opsiynau eraill ar gyfer cymorth.
Rydym yn deall y gall estyn allan am gymorth fod yn gam mawr, ond rydym yma i wneud y broses mor syml a hwylus â phosibl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses atgyfeirio neu wasanaethau GISDA, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01286 671153 neu gisda@gisda.co.uk.
Cysylltwch â'r awdurdod lleol/adran ddigartrefedd i dderbyn cyngor. Mae pob adran ddigartrefedd yn y cyngor yn gallu rhoi cyngor i chi am eich sefyllfa a chyfeirio chi at asiantaeth sy'n gallu helpu. Mae gan ran fwyaf o adrannau digartrefedd weithiwr atal digartrefedd sy’n gallu helpu. Yng Ngwynedd, GISDA sydd yn darparu gwasanaeth digartrefedd i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.
Efallai eich bod a hawl am lety ac/neu gefnogaeth drwy'r adran tai yn eich cyngor lleol. Os yw’r Cyngor yn ystyried eich achos yn flaenoriaeth, bydd rhaid iddynt chwilio am rywle i chi aros.
Yng Nghymru, dyma pwy sy'n cael eu blaenoriaethu:
- Merched beichiog
- Unigolion gyda phlant sy’n ddibynnol arnynt yn ariannol
- Unigolion sydd angen cymorth arbennig oherwydd eu bod yn hen, yn anabl neu am reswm arall
- Unigolion sy’n 16 neu 17 oed
- Unrhyw berson 18, 19 neu 20 oed sydd mewn risg o gael eu cam-drin yn rhywiol neu’n ariannol
- Unrhyw berson 18, 19 neu 20 oed sydd wedi, ar unrhyw amser, byw mewn tŷ maeth, byw mewn tŷ plant, neu wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol, awdurdod iechyd neu sefydliad gwirfoddol.
- Unrhyw berson sydd wedi dioddef trais yn y cartref, mewn risg o drais yn y cartref, neu mewn risg o unrhyw fath drwy ddychwelyd adref.
- Unigolion sydd wedi bod yn y Lluoedd Arfog ac wedi dod yn ddigartref ers gadael y Lluoedd Arfog.
- Cyn-garcharwyr sydd â chyswllt lleol yn yr ardal sy’n ddigartref ers gadael y carchar
Cofiwch feddwl yn ofalus cyn gadael eich llety. Os mai chi sydd ar fai am droi’n ddigartref, efallai bydd cymorth gan y cyngor ddim ar gael.
Pa grwpiau oedran sy’n derbyn cymorth gan GISDA?
Mae GISDA yn cynnig cefnogaeth a llety i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.
Ydy GISDA yn cynnig llety i gyplau?
Ydy - mae gennym lety i 4 teulu yn yr ardaloedd yma: Caernarfon, Llanrug, Felinheli a Blaenau Ffestiniog.
Beth alla i ddisgwyl gan GISDA?
Rydym yn cynnig llety cefnogol ac mae pob person ifanc yn derbyn gweithiwr allweddol. Mae'r gweithiwr yma yn gweithio gyda'r person ifanc i ddatblygu cynllun cefnogaeth. Mae SEREN yn cael ei gwblhau sydd yn cefnogi'r unigolyn i osod targedau a chyrraedd eu targedau. Mae pob person ifanc hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau, hyfforddiant, a llawer mwy.