Ydach chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc Gwynedd? Yna dewch i weithio efo GISDA.
Swyddi Diweddaraf
Gwelwch isod am swyddi gwag.
Rheolwr Prosiect LHDTC+ GISDA
Lleoliad:
Caernarfon
Dyddiad cau:
01/11/2024 12:00 YH
- Arwain a rheoli prosiect LHDTC+ GISDA
- Datblygu Fframwaith LHDTC+ o’r newydd i Wynedd yn gosod yn glir ein ffordd o weithio, ein safonau a’n disgwyliadau
- Datblygu Cynllun Busnes 3 blynedd gan edrych ar opsiynau ariannu.
- Arwain a datblygu a’r clybiau LHDTC+ yng Ngwynedd ar y cyd gyda’r bobl ifanc a staff y prosiect
- Rheoli, hyfforddi datblygu a chefnogi staff, gwirfoddolwyr a mentoriaid.
- Bod yn lysgennad cryf a hyrwyddo hawliau pobl ifanc LHDTC+
- Arwain ar godi ymwybyddiaeth o faterion a rhwystrau sydd yn effeithio pobl ifanc LHDTC+ a thrwy hynny sicrhau cyfleon cyfartal a theg.
- Sicrhau bod GISDA yn cynnal ac yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gyson ym mhob agwedd o'n gwaith
Cyflog:
B5 £33,708 - £39,307 tan Mai 2026
Oriau:
37 awr yr wythnos
Gweithiwr Allweddol Pobl Ifanc (Prosiect LHDTC+)
Lleoliad:
Blaenau Ffestiniog
Dyddiad cau:
01/11/2024 12:00 YH
Cefnogi pobl ifanc LHDTC+ sydd angen cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth yn ardal Meirionnydd a threfnu a chyflwyno gweithgareddau ar gyfer Clwb Ieuenctid LHDTC+ wythnosol ym Mlaenau Ffestiniog
Cyflog:
B3 £23,338-£24,646 (pro rata)
Oriau:
7.5 neu 15 yr wythnos (tan Mehefin 2026)