Eleni rydym yn lansio Apel GISDA 40 i nodi 40 mlynedd o ddarparu llety a chefnogaeth i bobl ifanc digartref a bregus yng Ngwynedd. Nid yw'n achos dathlu bod yna fwy o angen nag erioed am ein gwasanaeth ond dyna ydi'r realiti ac rydym angen eich help i barhau efo'r gwaith
CEFNOGI GISDA
Helpwch ni i gefnogi mwy o bobl ifanc bregus yng Ngwynedd ar eu taith o gefnogaeth i annibyniaeth a chael yr hyder a hawl i fyw bywydau hapus a diogel yn rhydd o anfantais ac annhegwch
I'r bobl ifanc mae GISDA'n cefnogi ers 40 o flynyddoedd mae breuddwydio am ddyfodol gwell yn golygu cael
- lle diogel i fyw
- hyder a sgiliau i fyw'n annibynnol
- gwaith a gyrfa
- perthynas iach efo teulu a ffrindiau
Ydach chi'n cytuno y dylai pob person ifanc yng Ngwynedd fedru breuddwydio am gael hyn?
HELPWCH NI I HELPU NHW
CYFRANNU WRTH SIOPIO
Mae Give As You Live yn gweithio efo dros 4.000 o siopau sydd wedi ymuno yn y cynllun i roi comisiwn ar bob pryniant arlein i elusen o’ch dewis chi, Mae’r comisiwn wedi cynnwys yn y pris o be da chi’n prynu felly fedrwch chi cefnogi GISDA heb dim cost ychwanegol i chi.
I gofrestru cliciwch y linc yma https://www.giveasyoulive.com/
RHODDION
Gallwch wneud rhoddion arlein drwy fynd i dudalen Just Giving GISDA - https://www.justgiving.com/gisda
Neu trosglwyddo arian trwy BACS. Cysylltu i gael manylion banc accounts@gisda.co.uk
RHOI ER COF
Un ffordd y gallech ddymuno ei defnyddio i’n helpu yw gadael rhodd i GISDA yn eich ewyllys neu neu rhoi rhodd neu trefnu casgliad mewn cynhebrwng er cof am un annwyl.
Os hoffech wneud rhodd i GISDA, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda, drwy ffonio neu anfon neges e-bost.
RHODD CYMORTH (Gift Aid)
COFIWCH - drwy wneud datganiad Rhodd Cymorth mae eich rhodd yn mynd ymhellach gyda GISDA yn cael 25c ychwanegol am bob £1 o'ch rhodd
RHODD BLYNYDDOL CEFNOGWR TIM GISDA
Trwy ddod yn gefnogwr o dim GISDA gallwch chi wneud gwahaniaeth positif i barhau gwaith GISDA ar gyfer pobl ifanc y dyfodol sydd angen cefnogaeth
- Cefnogwr Hostel - £1000 y flwyddyn
- Cefnogwr Fflat - £2500 y flwyddyn
- Cefnogwr Ty - £5000 y flwyddyn
CYNNAL DIGWYDDIAD
Mae cynnal digwyddiad cymunedol yn ffordd wych o gyfuno codi arian i helpu eraill a chael cyfle i gymdeithasu a mwynhau eich hunain. Mae syniadau yn cynnwys
- bingo
- bore coffi
- cwis
- gig
- gwerthiant cacennau
HERWICH EICH HUN
Beth am herio eich hun i redeg hanner marathon neu farathon? Beth am feicio 40km i nodi 40 mlynedd o GISDA? Neu herio eich hun i wneud 40 o rywbeth? Gallwch godi arian i GISDA drwy gasglu noddwyr wrth wneud hyn.