Mae GISDA yn falch o gyhoeddi bod Anya, merch 18 oed a gefnogir gan GISDA, wedi ennill Gwobr Partner Centrepoint UK 2024.
Anya, 18, yn ennill gwobr fawreddog Partner Centrepoint UK
17/10/2024

Mae'r wobr hon yn cydnabod ei thaith ryfeddol a'i gwytnwch wrth oresgyn heriau sylweddol drwy gydol ei bywyd. Fe'i gwobrwywyd ddoe yng Ngwobrau Centerpoint yn yr Amgueddfa Brydeinig - Llundain.
Mae Gwobrau Centrepoint yn dathlu llwyddiannau pobl ifanc sydd wedi dangos dewrder ac ymrwymiad eithriadol. Fel prif elusen digartrefedd ieuenctid y DU, mae Centrepoint yn cefnogi bron i 14,000 o unigolion ifanc bob blwyddyn, gan amlygu doniau a chyflawniadau amrywiol y rhai sydd wedi wynebu adfyd.
Mae Anya wedi dangos cryfder i symud ymlaen o dywyllwch yn ei phlentyndod ac wedi creu dyfodol disglair, nid yn unig ar ei chyfer ei hun, ond hefyd i gefnogi pobl ifanc eraill sy'n wynebu digartrefedd. Ar ben hynny, mae hi wedi llwyddo i ragori yn ei harholiadau. Mae hi wedi defnyddio ei phrofiadau byw i ddylanwadu ar wleidyddion i gefnogi pobl LGBTQ+ yn Gwynedd, a chychwyn grŵp celfyddydau perfformio, Nabod, sydd wedi datblygu'n sioe OLION gan Fran Wen.

“Mae Anya wedi dangos penderfyniad aruthrol i drawsnewid ei bywyd yn llwyr. Mae’n cymryd cryfder unigryw i symud ymlaen o’r math o heriau a wynebodd yn ystod plentyndod i greu dyfodol mor ddisglair nid yn unig iddi hi ei hun, ond hefyd fel eiriolwr dros eraill yn ei chymuned. Mae’n wych iddi gael ei chydnabod fel hyn – rydyn ni i gyd yn falch iawn ohoni.” meddai Cari, Arweinydd Tîm De Gwynedd.
Mae’r wobr hon yn adlewyrchu’r cerrig milltir arwyddocaol y mae pobl ifanc fel Anya yn eu cyflawni, gan ein hatgoffa ni i gyd o’r potensial sydd o fewn pob un ohonynt.

Dywedodd Sian Tomos, Prif Swyddog Gweithredol GISDA, “Rwyf mor falch o lwyddiant a chyflawniadau Anya. Mae hi wedi achub ar bob cyfle yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hi'n haeddu'r ganmoliaeth uchaf. Diolch iddi am ei gwaith caled ac am fod yn llysgennad mor wych i GISDA. Diolch o galon hefyd i staff GISDA sydd wedi bod yn ei chefnogi. Da iawn Anya, rydyn ni i gyd mor falch ohonoch chi!”