Ymweliad Sian Gwenllian AS/MS i GISDA

25/07/2024

Sian Gwenllian

Diolch yn fawr i Sian Gwenllian AS/MS am ddod i GISDA i wrando ar bryderon pobl ifanc am gost defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae pobl ifanc wedi bod yn trafod eu pryderon am drafnidiaeth gyhoeddus a sut mae'n cael effaith ar eu bywydau dyddiol fel rhan o weithgareddau Bwrdd Llais Pobl Ifanc GISDA. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl ifanc mae GISDA'n eu cefnogi yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus i deithio i'r coleg, gwaith, apwyntiadau neu i weld teulu a ffrindiau. Mae'r gost o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn aruthrol iddynt ac yn gallu bod yn her anferthol wrth geisio magu annibyniaeth.