Bore gwych yn Ngwesty’r Celt yn dathlu llwyddiant disgyblion Ysgolion Gwynedd a Môn!
Dathlu Llwyddiant Disgyblion Ysgolion Gwynedd a Môn!
17/02/2025

Rydym yn hynod falch o’n partneriaeth gyda adrannau addysg Gwynedd a Môn i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o ddadgysylltu o’r ysgol. Mae cydweithio fel hyn yn allweddol i sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y cyfleoedd gorau i ddatblygu sgiliau bywyd, magu hyder, a chreu dyfodol cadarnhaol iddynt eu hunain.

Diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin am y cyllid hollbwysig i wneud y prosiect hwn yn bosib. Mae’r gefnogaeth yma yn ein galluogi i ddarparu cyfleoedd dysgu gwerthfawr i bobl ifanc a’u harfogi gyda sgiliau hanfodol ar gyfer y dyfodol. Roedd y prosiect wedi cefnogi disgyblion mewn saith ysgol gwahanol i gwblhau dros o Achrediadau Agored Cymru i ennill cymhwyster llawn Sgiliau Byw’n Annibynnol.
Drwy gwblhau’r rhaglen, roedd yr unigolion yn dysgu a datblygu sgiliau hanfodol fel coginio, cyllidebu, dilyn cyfarwyddiadau, rhifedd, gweithio mewn tîm, bod yn greadigol, ymdopi ag iechyd meddwl, a llawer mwy. Roedd y profiad nid yn unig yn gyfle i ennill cymhwyster ond hefyd yn help i bob unigolyn fagu hyder a’i hunan-werth.
Diolch o galon i'r Cynghorydd Dewi Jones ac Aelod Cabinet Addysg Gwynedd am gyflwyno’r tystysgrifau i’r disgyblion. Diolch i Adrannau Addysg Gwynedd a Môn – yn enwedig yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad – am ddewis GISDA i gydweithio a darparu’r rhaglen hwn.
Roedd yn fraint gweld pob unigolyn yn derbyn eu tystysgrifau a chael cyfle i ddathlu eu llwyddiannau.

