GISDA yn ennill yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023

24/07/2024

Gwobrau Rhagoriaeth

Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023 yn y categori Arloesedd yn y Gymraeg. 

Mae’r wobr hwn yn cydnabod ein hymrwymiad i ddarparu cymorth cynhwysfawr a gwasanaethau ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gwaith ehangach.

Credwn ei bod yn hollbwysig i bobl ifanc allu cael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith gyntaf fel eu bod yn teimlo’n fwy hyderus a chyfforddus, ac rydym yn falch o gynnig ein gwasanaethau’n gwbl ddwyieithog.