Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2024

14/08/2024

Inspirational Charitable Organisation Welsh

GISDA wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Sefydliad Elusennol Ysbrydoledig yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2024

Mae GISDA yn hynod o falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Sefydliad Elusennol Ysbrydoledig yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2024. Mae gwobr y categori yma'n mynd i elusen sydd wedi dangos ymrwymiad ac arloesedd, wedi rhoi enghreifftiau o arferion gorau, ac wedi darparu atebion iechyd meddwl a lles cynaliadwy a buddiol i'r cymunedau a'r unigolion maent yn eu cefnogi. Mae holl wasanaethau a phrosiectau GISDA yn rhoi pwyslais enfawr ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Dyma mae ein pobl ifanc yn dweud:

  • 'Dwi'n teimlo yn llawer llai unig a mae'n braf bod yng nghwmni pobl sy'n ystyried fy iechyd meddwl'
  • ' Dwi'n teimlo fy mod yn gallu ymdopi'n well efo gweithgareddau grwp rwan. Mae gen i fwy o hyder i siarad am fy iechyd meddwl a dwi'n fwy ymwybodol o pryd dwi'n dechrau dirywio a sut mae hyn yn edrych. Dwi'n gallu gofyn am help a chefnogaeth cyn i mi gyrraedd crisis. Dwi hefyd yn fwy parod i drio pethau gwahanol sydd am helpu'
  • 'Dwi'n fam ifanc ym Mhwllheli. Mae sesiynau coginio a Byth Dim Yn Fam yn ffantastig, dwi'n rili mwynhau nhw a dwi'n teimlo fy mod i'n siarad mwy ac yn cael cyngor gan weddill y grwp.'
  • 'Dwi wedi dysgu bod o'n iawn i beidio bod yn oce ac i ofyn am help'
  • 'Fe wnaeth y trip ddysgu gymaint i fi am fy hun, oni filltiroedd allan o fy comfort zone. Dwi'n fwy abl na dwi'n feddwl'

Mae tim GISDA yn edrych ymlaen i fynd i Gaerdydd dechrau mis Hydref i Gynhadledd Iechyd Meddwl a Lles Cymru a'r seremoni wobrwyo.