Preswyl Gwaith Ieuenctid Cymru

27/08/2024

Gwaith ieuenctid cymru

Daeth criw o bobl ifanc ysbrydoledig ynghyd yn wersyllfa Glanllyn dros y dyddiau diwethaf i lunio dyfodol gwaith ieuenctid!

Rydym yn hynod falch bod tri pherson ifanc anhygoel wedi mynychu i gynrychioli GISDA a Gwynedd fel sir. Roedd y preswyliad yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ffyrdd newydd i sicrhau mwy o gyfranogiad gan bobl ifanc mewn gwasanaethau ieuenctid ond hefyd i gyfarfod eraill, cymryd rhan mewn gweithgareddau a chael hwyl! 

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a diolch yn fawr i Gwaith Ieuenctid Cymru Youth Work Wales ac Urdd Gobaith Cymru am gynnal y digwyddiad!