Senedd Ieuenctid Cymru 2024-2026

14/08/2024

WYP Partner Logo Small

Mae GISDA'n falch iawn i fod yn sefydliad partner ar gyfer trydydd Senedd Ieuenctid Cymru

Rydym yn falch iawn i fod yn un o'r 20 sefydliadau partner wedi eu cyhoeddi ar gyfer trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru 2024-2026, a hynny am yr ail dro. 

Fe wnaeth Keira gynrychioli GISDA yn ystod ail dymor Senedd Ieuenctid Cymru 2021-2023 ac rydym yn hynod o falch a diolchgar iddi am y gwaith a wnaeth yn eirioli dros bobl ifanc Gwynedd mewn materion hollbwysig megis iechyd meddwl a'r amgylchedd.

Rydym rwan yn edrych ymlaen i fedru enwebu person ifanc newydd rhwng 11 a 17 oed a fydd yn cynrychioli pobl ifanc GISDA dros y tymor nesaf o ddwy flynedd. Mae llais pobl ifanc a sicrhau ei fod yn cael ei glywed a gwrando arno yn flaenoriaeth craidd i ni yn GISDA. Bydd parhau fel sefydliad partner yn Senedd Ieuenctid Cymru yn sicrhau platfform teilwng i leisiau pobl ifanc digartref a bregus Gwynedd