🌍 Taith i Parma gyda Phrosiect TAITH 🌈

17/09/2024

IMG 1310

Yr wythnos diwethaf, aeth Kaya, ein Rheolwr Prosiect TAPI, i Parma gyda Phrosiect TAITH i fynychu cynhadledd LHDTC+ a drefnwyd gan Ganolfan Ali Forney, asiantaeth wedi’i lleoli yn Efrog Newydd sy’n cefnogi pobl ifanc LHDTC+. Daeth y digwyddiad â 25 asiantaeth wahanol at ei gilydd o 16 o wledydd ar draws y byd

Roedd y gynhadledd yn gyfle amhrisiadwy i rwydweithio gyda mudiadau eraill sy’n cefnogi unigolion LHDTC+ yn fyd-eang. Roedd yn blatfform i rannu arferion da, dysgu am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, ac archwilio sut maen nhw’n ymateb i’r materion hyn.

IMG 7812

Cafodd Kaya hefyd y cyfle unigryw i gymryd rhan mewn gwers goginio yn Academia Barilla. O dan arweiniad tri chogydd proffesiynol, fe wnaeth hi blymio i mewn i ddiwylliant bwyd cyfoethog yr Eidal, gan ddysgu'r technegau a’r traddodiadau sy'n gwneud bwyd Eidalaidd mor boblogaidd ledled y byd. Nid yn unig y dysgodd y profiad ymarferol hwn iddi sut i baratoi prydau Eidalaidd dilys, ond hefyd fe ddyfnhau ei gwerthfawrogiad o dreftadaeth goginiol y wlad.

IMG 1192

Roedd yn brofiad gwych rhannu’r gwaith anhygoel mae GISDA yn ei wneud i gefnogi ein pobl ifanc, yn ogystal â hyrwyddo’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael yma yn GISDA i bobl ifanc Gwynedd. Roedd yn wych cael sgwrsio gyda’r lleill i gasglu syniadau ar sut i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau er mwyn cefnogi ein pobl ifanc y gorau y gallwn ni. Rydym yn edrych ymlaen at drafod y rhain gyda gweddill y tîm ac ystyried sut y gallwn ddefnyddio profiadau asiantaethau eraill i ddatblygu ac addasu ein gwasanaethau yn GISDA.

Hoffem ddiolch yn fawr i Ganolfan Ali Forney am drefnu'r cyfle i'r holl fudiadau sy'n gwneud cymaint o waith anhygoel ledled y byd ddod at ei gilydd i wella gwasanaethau i bobl ifanc LHDTC+. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfle i fod yn rhan o'r drafodaeth hollbwysig hon. 🌈🌍