Mae GISDA efo Hybiau Pobl Ifanc yng Nghaernarfon, Bangor, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli
Hybiau Pobl Ifanc
Mae Hybiau GISDA yn 'one stop shop' i bobl ifanc cael mynediad hygyrch i gefnogaeth a chyfleoedd. Mae pob gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae gennym bolisi drws agored lle nad oes angen apwyntiad. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys
- Cefnogaeth digartrefedd a chymorth tai
- Cefnogaeth LHDTC+
- Academi Cyfleon am gefnogaeth gwaith, addysg ac hyfforddiant
- Gweithgareddau creadigol therapiwtig
- Cefnogaeth i bobl ifanc profiadol o ofal
- Cefnogaeth i rieni ifanc
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant
- Bwrdd Llais Pobl ifanc wythnosol
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth galw heibio sy'n ymateb i bobl ifanc mewn argyfwng i dderbyn cyngor a chefnogaeth gyda
- tai a digartrefedd
- incwm a budd-daliadau
- cysylltu gyda sefydliadau eraill
- iechyd meddwl a llesiant corfforol
- pecynnau iechyd rhyw
- addysg a hyfforddiant
- pecynnau bwyd a thalebau banciau bwyd
- cerdiau sim
- dillad
- talebau ynni
- cyllid llety argyfwng
- grantiau 'symud ymlaen'
grantiau gwaith i helpu efo dillad, adnoddau, trafnidiaeth a gofal plant