Mae prosiect Cymorth Tai yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy’n ddigartref neu mewn risg o fod yn ddigartref. Dyma brosiect mwyaf GISDA o ran maint ac o fewn y tîm mae gennym weithwyr allweddol, gweithwyr cefnogol, gweithwyr cysgu mewn a chydlynydd eiddo. Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth ar gyfer 62 o bobl ifanc ar draws Gwynedd.
Cymorth Tai
Ar hyn o bryd mae gennym unedau tai yng Nghaernarfon, Felinheli, Llanrug, Blaenau Ffestiniog, a Dolgellau. Mae’r unedau yma yn darparu llety ar gyfer 31 person ifanc – 26 sengl a 5 mewn llety sy’n darparu cymorth teuluol. Tu hwnt i hyn, rydym hefyd yn cefnogi 31 o bobl ifanc eraill o fewn cymunedau ledled Gwynedd.
Mae pob aelod o staff yn cynnig pecyn cefnogaeth sydd wedi ei deilwra i sicrhau fod yr unigolyn yn ganolog drwy ddefnyddio ein model therapiwtig ni (‘Model Fi’). Rydym yn gobeithio bydd y gefnogaeth yma yn galluogi pob unigolyn i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau er mwyn magu'r annibyniaeth a’r gwydnwch i gwrdd â’u hanghenion nawr ac i’r dyfodol.
Mae’r gefnogaeth yn cynnwys y canlynol:
Mae pob unigolyn ynghyd â’u gweithwyr allweddol yn gweithio tuag at eu nodau cymorth unigol yn ystod sesiynau cymorth wythnosol. Mae’r rhain yn cael eu hadolygu trwy eu cynllun gweithredu personol bob chwe wythnos ac yn cael eu bwydo mewn i’w cynllun cymorth a’u hasesiad risg sy’n cael ei ddiweddaru’n chwarterol i sicrhau bod pob person ifanc yn cael y gorau allan o’u cefnogaeth.
Rydym hefyd yn cynnig nifer o wahanol wasanaethau o fewn y prosiect hwn, megis gwasanaeth galw i mewn a gwasanaeth ar alwad 24 awr y dydd sy’n cynnig cyngor ac arweiniad i unigolion ar y pynciau canlynol:
- Cyngor ar dai ac arwyddion
- Llenwi ffurflenni cyngor a budd-daliadau
- Cyngor ar ddyledion ac arwyddion
- Ceisiadau am grantiau
- Llythyrau Cefnogi
- Cyfathrebu a Chyfateb
- Gwaith a Gwirfoddoli
Rydym yn gobeithio helpu pob unigolyn ffurfio perthnasau iach a phositif, amddiffyn pob unigolyn rhag iddynt wynebu anffafriaeth, sicrhau eu bod yn rhan o’r gymuned, a’u cefnogi gyda’u hanghenion tai.
Credwn yn gryf mewn rhoi cyfle cyfartal a theg i bawb. Rydym yn esbonio eich hawliau a’ch cyfrifoldebau ynghyd ag amlinellu ein gofynion a’n cyfrifoldebau ni. Rydym yn trin pob unigolyn â pharch ac rydym wrth ein bodd clywed eich barn am ein gwasanaeth.